Sefydlwyd Lowless a Lowless yn y flwyddyn 1898 pan ymynodd Norman Lowless a ffyrm cyfreithiol ei frawd, Ronald, ym Mhenfro. Cymherodd Owen, mab Ronald, y ffyrm drosodd yn 1937, cyn iddo gael ei alw i wasanaethu yn y Fyddyn yn yr Ail Ryfel Byd.
Ar ddiwedd y Rhyfel dychwelodd Owen yn ol i’r ffyrm, a chadwodd i ymarfer nes iddo ymddeuol yn 1974. Dros yr amser hyn datblygwyd y ffyrm yn gyson gyda Iorwerth Phillips, Philip Davies a Huw Morgan yn ymaelodi fel partnerion. Yn 1971 ymynodd Malcolm Lowless, mab Owen, fel partner hefyd, gyda Jack Newman.
Dal y ffyrm i flodeuo a llwyddo yn ystod y blynyddoedd o ddechrau 1980 hyd ddiwedd y mileniwm, yn gweithio allan o swyddfeydd ym Mhenfro, Dinbych-y-Pysgod a Doc Penfro. Daeth Paul Cowper yn bartner yn 1987, gyda Rhian Davies yn ymuno yn 1997.
Oddi ar y Canmlwyddiant yn 1998 mae’r ffyrm wedi gweld tyfiant sylweddol. Agorwyd swyddfa newydd yn Hwlffordd yn 2000, ac yn 2001 ymynodd Luke Smith a James Subbiani fel partnerion.
Dilynwyd hyn yn 2004 gan gaffaeliad ffyrm Paul Settatree a’i Gwmni yn Hwlffordd.Sefydlwyd y ffyrm yn 1979 gan Paul Settatree, ac yn cynwys Eaves a’i Gwmni yn 1983.
Ymunodd y partnerion yn Paul Settatree a’i Gwmni, sef Rhett Gates a Patrick Mansel Lewis fel ymgynghorwyr i Lowless a Lowless yr un pryd ar gaffaeliad, gyda Anne-Marie Pagett hefyd.
Ym mis Medi 2004, gaffaelwyd Lowless a Lowless swyddfa Cyfreithwyr Walter Williams yn Aberdaugleddau. Dilynwyd hyn ym mis Ebrill 2006 gan gaffaeliad ffyrm Rogers-Haggar yn Aberdaugleddau. Ymynodd Tim Haggar fel partner a Sally Rogers fel ymgynghorydd. Fe ymunodd David Sangster fel partner yn 2006.
Mae’r ffyrm nawr yn cynnwys wyth o bartnerion, pedwar o ymgynghorwyr, a chyfanswm o 87 staff cefnogaeth.
Mae’r ffyrm yn medru estyn cyngor i gwmnïau ac unigolion dros amrywiaeth o nodweddau arbennig.
Am ragor o wybodaeth e-bost mark.griffith@lowless.co.uk os gwelwch yn dda.

